Cofrestriad Sylfaenol ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein
Mae bellach yn bosibl cofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein heb fynd i’ch meddygfa.
Defnyddiwch yr opsiwn cofrestriad sylfaenol trwy Fy Iechyd Ar-lein a threfnu apwyntiad. Yna, ewch i’ch meddygfa ar y diwrnod a’r amser cywir, gyda dau brawf hunaniaeth. Mae’r canlynol yn dderbyniol, ond mae’n rhaid i o leiaf un ohonynt gynnwys llun:
- Pasbort
- Trwydded Yrru
- Tystysgrif Geni
- Cyfriflen Banc
- Bil Gwasanaethau
I gofrestru ar gyfer Apwyntiadau’n unig:
-
Ar www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk, dewiswch eich dewis iaith.
-
O dan Mewngofnodi dewiswch Cofrestru cyfrif newydd:
- Bydd y sgrin Cofrestru yn ymddangos:
- Cwblhewch fel a ganlyn:
- Ydych chi wedi derbyn llythyr cofrestru gan eich meddygfa?
- Dewiswch Na os ydych yn bwriadu defnyddio’r opsiwn cofrestriad cyflym a chofrestru’n llawn yn ddiweddarach.
- Cod post – Rhowch eich cod post a chliciwch Cyflwyno.
- Ydych chi wedi derbyn llythyr cofrestru gan eich meddygfa?
- Bydd y sgrin Canfod fy mhractis yn ymddangos. Bydd y map yn dangos y meddygfeydd sydd yng nghyffiniau eich cod post a rhestr gyfatebol:
- Cliciwch ar eich meddygfa, naill ai ar y map neu ar y rhestr, a chliciwch ar Cadarnhau.
- Bydd y sgrin Creu eich Cyfrif yn ymddangos, cwblhewch yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y sgrin.
- Cliciwch ar y dolenni isod i adolygu’r Telerau ac Amodau a’r Polisi Preifatrwydd, a rhowch dic i gytuno â nhw.
-
Ticiwch I’m not a robot i gadarnhau:
- Cliciwch Cofrestru.
- Bydd y sgrin Croeso yn ymddangos nawr, a gallwch drefnu apwyntiadau yn eich meddygfa, ar-lein: